Sesiynau Ysgol / School Sessions
Mae'r ysgol yn cychwyn am 9.00 y.b. gyda chofrestru.
Mae plant i fod yn yr ysgol rhwng 8.45 a 9.00 y.b. (dim hwyrach)
Gofynnir i rieni sicrhau bod y plant yn brydlon bob amser.
Sylwch y gall staff fod ar y safle yn gynt nag amseroedd cychwyn y disgyblion, ond ni allant dderbyn cyfrifoldeb am ddiogelwch y plant. Fodd bynnag, rydym yn cynnal Clwb Brecwast llwyddiannus iawn sydd am ddim i bob disgybl. Mae Clwb Brecwast yn rhedeg o 8.00 y.b.-8.45 y.b.
Yr amser cyswllt addysgu yn yr ysgol yw lleiafswm o 21 awr ar gyfer Babanod a 23.5 awr ar gyfer yr Adran Iau. Nid yw hyn yn cynnwys addoliad, cinio, cofrestru, ac egwyliau eraill.
Mae'r plant yn rhoi eu beiros i lawr am 3.15 p.m. ac yn cael eu rhyddhau cyn gynted â phosibl ar ôl yr amser hwnnw.
Rhaid i rieni ddod i mewn i fuarth yr ysgol i gasglu eu plant ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
School commences at 9.00 a.m. with registration.
Children are to be in school between 8.45 and 9.00 a.m. (no later)
Parents are asked to ensure that the children are punctual at all times.
Please note that staff may be on the premises earlier than the pupils’ start times, but they are unable to accept responsibility for the children’s safety. We do however run a very successful Breakfast Club which is free to all pupils. Breakfast Club runs from 8.00 a.m.- 8.45 a.m.
Teaching contact time at school is a minimum of 21hrs for Infants and 23.5hrs for Juniors. This excludes worship, lunch, registration, and other breaks.
The children put down their pens at 3.15 p.m. and are released as soon as possible after that time.
Parents must come into the school yard to collect their children at the end of the school day.