Scroll to content
Ysgol Casblaidd Wolfcastle C.P. School home page
Holt Farm Infant School Holt Farm Infant School

Dyro Dy Law I Mi Ac Fe Awn I Ben Y MynyddGive me your hand and we will go to the top of the mountain

Ein Hysgol Ni / Our School

Lleolir Ysgol Cas-blaidd ynghanol pentref Cas-blaidd ychydig i’r gogledd o greigiau Trefgarn, sy’n cofnodi’r rhaniad rhwng “Cymreictod” gogledd Sir Benfro a “Seisnigrwydd” y De.  Mae’r ysgol yn enwog am hyrwyddo’r “Cymreictod” hwnnw yn ei disgyblion, yn ddiwylliannol ac ieithyddol, boed y rhieni’n siarad yr iaith neu peidio.

 

Mae Ysgol Cas-blaidd ynghanol ac yn galon y gymuned, “ysgol bentref” yng ngwir ystyr y gair, yn darparu adloniant ar gyfer y trigolion, yn helpu gyda rhaglenni glanhau a phlannu blodau, ac yn rhan annatod o gynnig y pentref yng nghystadleuaeth flynyddol “Cymru yn ei Blodau”. Mae’r pentrefwyr yn gefnogol iawn i weithgareddau’r ysgol, ac fe helpant godi arian i’r ysgol e.e. trwy Ŵyl Cas-blaidd. 

 

Mae’r ysgol yn Ysgol Gynradd Sirol gydaddysgol sy’n darparu ar gyfer plant yn ardaloedd Cas-blaidd a Trefgarn.  Adeiladwyd yr ysgol yn 1834 ac mae ynddi ddwy ystafell ddosbarth, sy’n cael eu gwahanu gan yr hyn oedd yn wreiddiol yn ysgoldy. 

 

- - - - - - - - - - - - - 

 

Ysgol Casblaidd is set in the centre of the village of Wolfscastle just to the north of Treffgarne rocks, which mark the divide between the “Welshry” of north Pembrokeshire and the “Englishry” of the south.  The school is renowned for fostering that “Welshness” in its pupils, both culturally and linguistically, whether parents are able to speak the language or not. 

 

Ysgol Casblaidd is at the heart of the community, a true “village school”, providing entertainment for the residents, helping with clean up and planting programmes, and forming an integral part of the village’s entry to the annual “Wales in Bloom” competition and in the 2010, 2015 & 2018 Britain in Bloom competition. Villagers are very supportive of school activities and help to raise money for the school e.g., via the annual Wolfscastle Festival.  

 

The school is a co-educational County Primary School, catering for children in the Wolfscastle and Treffgarne areas. The school was built in 1834 and consists of two classrooms, separated by what was originally the schoolhouse.