Datganiad Cwricwlwm
Ein gweledigaeth
Bydd ein dysgwyr yn iach ac yn hyderus, yn ddysgwyr gydol oes chwilfrydig a dyfeisgar sy'n cymryd rhan mewn materion byd-eang ac yn cyfrannu atynt, ac yn ymarfer gwerthoedd craidd yr ysgol: parch, empathi, cyfrifoldeb a chydweithrediad.
Bydd ein dysgwyr yn meithrin hyder yn eu hunaniaethau wrth iddynt archwilio, arddangos, gwneud penderfyniadau a rhoi gwerth ar sgiliau a gwybodaeth a fydd yn eu cynorthwyo i fod yn ddinasyddion creadigol, moesegol, galluog a gwybodus yn eu cymunedau.
Ein gwerthoedd
Parch ac Ymddiriedaeth
Llesiant a Gofal
Hapusrwydd a Mwynhad
Cadernid a Hyder
Cymru a Chymreictod
Cymuned a Chynefin
Cymryd risgiau ac Arloesi
Cymorth a Chydweithio
Ein cwricwlwm cynhwysol
Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Yn ein hysgol rydym wedi ystyried y modd y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i wneud cynnydd. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a'r modd y byddwn yn bodloni anghenion grwpiau gwahanol o ddysgwyr.
Y pedwar diben
Y pedwar diben yw'r man cychwyn a'r dyhead ar gyfer cynllun cwricwlwm ein hysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu hoes
- cyfranwyr mentrus a chreadigol, sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd
- unigolion iach a hyderus, sy'n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau allweddol, yr wybodaeth a'r sgiliau fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â Chod y Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.
Meysydd Dysgu a Phrofiad
Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu trwy’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad:
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Y Dyniaethau
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Dysgu, Cynnydd ac Asesu
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy gynllunio cyfleoedd dysgu sy’n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol.
Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall yr hyn y mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol, a'r modd y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi'r modd yr ydym yn mynd ati i asesu, a’i ddiben yw llywio gwaith cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i'r ysgol.
Cymraeg a Saesneg
Fel ysgol cyfrwng Cymraeg bydd dysgu yn digwydd yn y Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar ymlaen. Yn CA2 bydd hyd at 80% o ddysgu yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i wneud y canlynol:
- datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn
- bod yn hyderus yn eu defnydd o ystod o dechnolegau i'w helpu i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn/Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau
Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â Rhan 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ymhlith y rheiny sy'n darparu'r addysgu a'r dysgu.
Addysg Gyrfaeodd a Phrofiadau sy’n gysylltedig â byd gwaith
Our curriculum will incorporate careers and work related experiences for all of our learners.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Mae cwricwlwm ein hysgol yn coleddu'r arweiniad a geir yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr, a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu'r pedwar diben trwy ddull ysgol gyfan. Helpu dysgwyr i feithrin a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, yw sylfaen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae'r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad llesiant emosiynol, cadernid ac empathi.
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ofyniad statudol yn Cwricwlwm i Gymru, ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.
Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn yn ôl o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn Cwricwlwm i Gymru.
Gan fod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn bwnc a bennir yn lleol, mae'r maes llafur y cytunwyd arno yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu ym maes Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn yr awdurdod lleol, a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu'r canllawiau hyn.
Adolygu a mireinio
Bydd cwricwlwm ein hysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion newidiol y dysgwyr, a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau'n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethu. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.